Vale of Glamorgan – Welsh Youth Parliament Member

Fy enw i yw Lleucu Haf Wiliam, rwy’n dair ar ddeg mlwydd oed ac rwyf yn mynychu Ysgol gymraeg Bro Morgannwg yn y Barri. Ar ol clywed fy mod wedi cael fy ethol i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid cyntaf yn benodol i Gymru, mi roeddwn yn llawn cyffro i gael y cyfle i wneud gwahaniaeth i ddyfodol yr ieuenctid. Hoffwn longyfarch pawb arall a wnaeth ymgeisio a diolch i bawb a wnaeth bleidleisio.
Mi rwyf yn awr yn cynrychioli fy ardal sef Bro Morgannwg ac yn ymgyrch yn erbyn y llosgydd yn y Barri a’r gwaredu o fwd ymbelydrol ar ein glannau o achos i’r effaith y mae’n ei gael ar y ieuenctid. Yn ogystal a hyn, rwyf hefyd yn ymgyrchu o blaid yr ysgol gynradd newydd ar y glannau i fod yn ysgol sy’n dysgu trwy gyfrwng y gymraeg er mwyn hybu ein hiaith. Ar ol clywed fod yno’r cyfle i mi fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid, roeddwn yn benderfynol fy mod am gymryd rhan.
Rwyf yn hynnod o ddiolchgar ac yn gyffrous i leisio barn ieuenctid fy ardal i. Hoffwn i bawb wybod fod yno groeso i gysylltu a mi unrhyw adeg i drafod unrhyw angen.
My name is Lleucu Haf Wiliam, I’m thirteen years old and I go to Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg in Barry. After I heard that I was elected to be a part of the first Welsh Youth Parliament. I was very excited to have the opportunity to make a difference in the future of young people. I would like to congratulate everyone who was a candidate and to thank everyone who voted.
Now I’m representing my area, which is The Vale of Glamorgan, I am campaigning against the incinerator in Barry and the dumping of radioactive mud on our coasts because of the effect it has on young people. As well as this, I am also campaigning for a new primary school on the coast, to be a Welsh medium school to promote our language. When I heard that there is an opportunity for me to be a part of the Welsh Youth Parliament, I was determined to take part.
I am extremely grateful and excited to represent the voice of young people in my area. I would like everyone to know they are welcome to contact me anytime to discuss any need.