Pupils Launch VOG BLOG / DISGYBLION YN LANSIO VOGBLOG
Pupils Launch VOG BLOG / DISGYBLION YN LANSIO VOGBLOG avatar

PUPILS LAUNCH VOGBLOG

24 September 2018

Nine schools in the Vale of Glamorgan have come together to start a blog to share their latest news with pupils, parents and the wider community.

VOGBLOG, was designed and named by pupils at a workshop held at the Civic Offices in July. During the workshop pupils also had the opportunity to pick up top tips on writing news articles from the Council’s communications team.

The idea behind the blog was to give pupils a platform to share news stories, events, accolades, sporting achievements and more with their schools and wider community. The shared blog will also allow collaboration between a number of schools in the Vale.

It will also provide pupils with an interest in the media or a career in journalism with an opportunity to improve their skills from a young age and build a portfolio of their work.

Over the summer, officers in the Education department have worked to develop the blog, meeting pupils design preferences, ready to launch the blog in the autumn term.

Cllr Bob Penrose, Cabinet Member for Education said: “I think it’s an excellent idea for pupils to be able to write and share news articles on behalf of their school.

“I hope more schools get involved with VOGBLOG. Writing and developing a blog is a key skill for pupil’s to develop and will help them in their careers beyond their school days.”

VOGBLOG can be viewed at www.vogblog.wales it is hoped that sharing this platform will encourage more schools to get involved.

 

DISGYBLION YN LANSIO VOGBLOG

24 Medi 2018

Mae naw ysgol ym Mro Morgannwg wedi dod ynghyd i ddechrau blog i rannu eu newyddion diweddaraf gyda disgyblion, rhieni a’r gymuned ehangach.

Cafodd VOGBLOG ei ddylunio a’i enwi gan ddisgyblion mewn gweithdy a gynhaliwyd yn y Swyddfeydd Dinesig ym mis Gorffennaf.  Yn ystod y gweithdy cafodd ddisgyblion hefyd y cyfle i ddysgu sgiliau newydd o ran ysgrifennu erthyglau newyddion gan dîm cyfathrebu’r Cyngor.

Y syniad y tu ôl i’r blog oedd rhoi platfform i ddisgyblion rannu straeon, digwyddiadau, acolâdau, cyflawniadau chwaraeon a mwy gyda’u hysgolion a’r gymuned ehangach.   Bydd y blog hefyd yn caniatáu cydweithredu rhwng nifer o ysgolion yn y Fro.

Bydd hefyd yn rhoi cyfle i ddisgyblion gyda diddordeb yn y cyfryngau neu gyrfa mewn newyddiaduriaeth i wella eu sgiliau yn gynnar mewn bywyd ac adeiladu portffolio o’u gwaith.

Dros yr haf, mae swyddogion yn yr adran Addysg wedi bod yn gweithio i ddatblygu’r blog, gan ddiwallu dewisiadau dylunio disgyblion,  yn barod ar gyfer lansio’r blog yn nhymor yr hydref.

Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Addysg: “Rwy’n credu ei fod yn syniad rhagorol i ddisgyblion allu ysgrifennu a rhannu erthyglau newyddion ar ran eu hysgol”

“Rwy’n gobeithio y bydd mwy o ysgolion yn cymryd rhan yn y VOGBLOG.  Mae ysgrifennu a datblygu blog yn sgil allweddol i ddisgyblion ei ddatblygu a bydd yn eu helpu yn eu gyrfaoedd y tu hwnt i’w cyfnod yn yr ysgol.”

Gellir gweld y VOGBLOG yn www.vogblog.wales ac rydym yn gobeithio drwy rannu’r platfform hwn y bydd mwy o ysgolion eisiau cymryd rhan.